Skip to main content

English

Oes gennych chi unrhyw arwyr o fyd mathemateg? Fy ffefryn i yw Robert Recorde (1512?–1558), Cymro o Ddinbych-y-pysgod, Sir Benfro, sy’n enwog heddiw am ddyfeisio’r arwydd hafal ‘=’. Mae Recorde yn arwr i mi, nid yn gymaint oherwydd hynny, ond oherwydd mai ef oedd y cyntaf un ym Mhrydain i feddwl o ddifrif ynghylch sut i gyflwyno syniadau mathemategol i gynulleidfa eang. Recorde oedd yr athro mathemateg cyntaf un, a’r cyntaf i ysgrifennu llyfrau yn Saesneg yn egluro egwyddorion rhifyddeg ac algebra i bobl gyffredin. Ef hefyd oedd y cyntaf i ddehongli gwaith geometreg Ewclid o’r cyfnod clasurol. Yn nhraddodiad arwyr trasig, bu farw yn amddiffyn ei egwyddorion. Nid yw mathemateg yn twyllo ac nid oedd Recorde yn barod i dwyllo ychwaith. Talodd y pris eithaf am hynny.

 

Magical Symbols: Dehongliad gan yr artist Anne Gregson, Sir Benfro, yn dangos defnydd o’r arwydd ‘=’ mewn hafaliadau enwog dros y canrifoedd. Gellir gweld y llun hwn a deunyddiau eraill yn gysylltiedig gyda Recorde, gan gynnwys ei lyfrau, yn Amgueddfa ac Oriel Dinbych-y-pysgod.

Tref fach brysur oedd Dinbych-y-pysgod yn ôl tua’r flwyddyn 1500. Yn anghysbell o ran ei chyrraedd ar hyd ffyrdd anodd y cyfnod, roedd yn borthladd poblogaidd i longau o bell ac agos, a’i harbwr yn denu masnachwyr nwyddau o bob math. Roedd llwyddiant y dref yn dibynnu ar ei gwŷr busnes. Roedd ei swyddogion hefyd yn brysur yn gosod a hel tollau gan y llongau am yr hawl i ddefnyddio’r harbwr. Roedd angen amrywiaeth eang o sgiliau mathemategol ar y bobl gyffredin, y cyfeiriwyd atynt gan Recorde fel ‘the vnlearned sorte’, er mwyn cynnal eu busnes. Roedd y sgiliau hyn yn cynnwys cadw cyfrifon, cyfnewid arian, a defnyddio unedau amrywiol a chymysg wrth bwyso a mesur.

Un o fewnfudwyr y bymthegfed ganrif i Ddinbych-y-pysgod oedd Roger Recorde, masnachwr o Swydd Caint. Roedd unig fab Roger, Thomas Recorde, hefyd yn fasnachwr yn y dref. Priododd hwnnw â Ros Johns, Cymraes o ardal Machynlleth. Robert Recorde oedd yr ieuengaf o ddau fab Thomas a Ros. Ychydig iawn o fanylion sydd gennym am ei blentyndod a’i lencyndod yn Ninbych-y-pysgod, ond mae’n sicr iddo gael ei ddylanwadu gan fwrlwm masnachol y dref ei hun ac iddo sylwi ar drigolion y dref yn trin arian ac yn defnyddio sgiliau rhif yn eu gwaith o ddydd i ddydd. Cafodd ychydig o ysgol yn eglwys y dref a llwyddodd er gwaethaf amgylchiadau anodd y cyfnod i fynd yn fyfyriwr i Rydychen. Enillodd ei radd gyntaf yno a gradd bellach yng Nghaer-grawnt a’i galluogodd i ymarfer ei grefft fel meddyg.

Daeth Recorde i sylw’r frenhiniaeth ac fe’i penodwyd i ofalu am y bathdai brenhinol ym Mryste, Llundain a Dulyn ac i fod yn uwch-reolwr mwyngloddio arian yn Iwerddon. Y tasgau hynny oedd yn ei gynnal o ddydd i ddydd, ynghyd â pharhau i wneud peth gwaith meddygol a rhoi gwersi preifat mewn mathemateg. Roedd yn weithiwr cydwybodol ond yn ddiniwed yn wleidyddol. Aeth yn benben gyda Iarll Penfro, ei reolwr, gan gyhuddo Penfro’n gyhoeddus o gadw peth o elw’r bathdai at ei ddibenion ei hun yn hytrach na’i drosglwyddo’n llawn i’r Goron. Ymateb Penfro oedd cyhuddo Recorde o enllib, a hawliodd iawndal. Collodd Recorde yr achos – pa obaith oedd ganddo yn erbyn y fath ddyn pwerus a dylanwadol? – a chafodd ddirwy o fil o bunnoedd. Byddai’r ddirwy’n cyfateb i tua £300,000 heddiw ac nid oedd gan Recorde y modd i’w thalu. O ganlyniad, fe’i dedfrydwyd i gyfnod mewn carchar i ddyledwyr yn Llundain. Daliodd haint yn y carchar a bu farw dan amgylchiadau truenus ychydig fisoedd yn ddiweddarach.

Mae hwn yn dalfyriad o bennod am Robert Recorde gan Gareth Ffowc Roberts yn Mae Pawb yn Cyfrif (Llandysul, 2012), gweler www.garethffowcroberts.com.