#posydydd gan @GarethFfowc
Dyma rai enghreifftiau o #posydydd gan @GarethFfowc. Mae yna gysylltiad yn aml rhwng y pos a’r dyddiad y cafodd ei bostio ar Twitter. Nid oes angen unrhyw fathemateg gymhleth i’w datrys ond gall parodrwydd i feddwl ‘y tu allan i’r bocs’ fod o gymorth.
Pos 1
#posydydd 28/02
Mae ‘pump’ yn ailadrodd ‘p’,
‘tri deg dau’ yn ailadrodd ‘d’.
Beth yw’r rhif mwyaf nad yw’n ailadrodd unrhyw lythyren?— Gareth Ffowc Roberts (@GarethFfowc) February 28, 2014
Pos 2
#posydydd 03/06
Wrth gerdded 3mya byddaf awr yn hwyr.
Wrth loncian 6mya byddaf awr yn gynnar.
Pa mor bell yw hi?— Gareth Ffowc Roberts (@GarethFfowc) June 3, 2016
Pos 3
#posydydd 18/06
Mae tudalennau llyfr yn cael eu rhifo o 1 ymlaen gan ddefnyddio 1806 digid i gyd.
Beth yw rhif y dudalen olaf?— Gareth Ffowc Roberts (@GarethFfowc) June 18, 2015
Pos 4
#posydydd 23/06
23 yw’r 6ed rhif yn y dilyniant Fibonacci 1, 4, 5, 9, 14, 23,…
ac ym mha ddilyniant Fibonacci arall?— Gareth Ffowc Roberts (@GarethFfowc) June 23, 2016
Pos 5
#posydydd 02/07 Am 7am mae 1 ameba mewn bocs. Mae’n haneru bob munud. Erbyn 8am mae’r bocs n llawn. Pryd oedd y bocs n ½ llawn? © @AnnHopcyn
— Gareth Ffowc Roberts (@GarethFfowc) July 2, 2013